1. Bargen a fydd yn sicrhau Twf i Ganolbarth Cymru

1.1 Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn bartneriaeth economaidd ranbarthol gynhwysol ac yn drefniant ymgysylltu rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac mae'n un o bedair partneriaeth o'r fath yng Nghymru.  Mae'r fenter, a sefydlwyd yn gyntaf yn 2015, yn ceisio cynrychioli buddiannau'r rhanbarth a bwrw ymlaen gyda blaenoriaethau er mwyn gwneud gwelliannau i'n heconomi leol.  Diben y bartneriaeth yw galluogi'r rhanbarth i gyflawni ei rôl fel pwerdy gwledig Cymru.

1.2 Mae TCC wedi ymrwymo'n llawn i'r gwaith o ddatblygu dull gweithredu ar ffurf bargen a fydd yn sicrhau twf ar gyfer Canolbarth Cymru, ac mae o'r farn bod dull gweithredu rhanbarthol o'r fath tuag at ddatblygu economaidd yn hanfodol o ganlyniad i natur arbennig yr economi yng Nghanolbarth Cymru – y ddibyniaeth strwythurol ar amaethyddiaeth, y boblogaeth wasgaredig, y cyfraddau cynhyrchiant isel yn hanesyddol a chyfran uchel y busnesau bach a chanolig.  Anaml y gwelir y ffactorau hyn ar raddfa mor fawr mewn ardaloedd eraill, ac mae sefyllfa economaidd arbennig y rhanbarth wedi cael ei chydnabod mewn polisi blaenorol y llywodraeth, gyda sefydliadau megis Bwrdd Datblygu Cymru Wledig.

1.3 Mewn cyd-destun cenedlaethol, byddai bargen a fyddai'n sicrhau twf i Ganolbarth Cymru yn golygu dull gweithredu cyson ar draws Cymru mewn perthynas â chymorth ariannol a datganoli pwerau i'r rhanbarthau.

2.   Bargeinion Sector

2.1 O ganlyniad i gymeriad gwledig ein rhanbarth, rydym yn ymwybodol o'r posibilrwydd y gallai pecyn ar ffurf bargen ar gyfer y sector gwledig gael ei ddatblygu ar draws y DU.  Mae'r rhanbarth eisoes yn sicrhau buddsoddiadau sylweddol gan lywodraeth y DU a'i hasiantaethau (er enghraifft, BBSRC ac InnovateUK) a cheir mentrau rhanbarthol eraill yn y sector, (megis Cynghrair Agri-Tech y Gorllewin yn Lloegr).  Rydym yn cynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol, gan geisio bod yn rhan o 'fargeinion' sy'n dod i'r amlwg.

3.   Anghydraddoldebau Rhanbarthol

3.1 Mae TCC yn croesawu ac yn cefnogi cydnabyddiaeth CLlLC o Dwf Cynhwysol fel rhan ganolog o ddatblygiad rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol, a'r rôl allweddol y gall Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ei gyflawni wrth ddarparu fframwaith ar gyfer gweithgarwch.  Nid oes modd sicrhau Cymru mwy cyfartal a chydlynus os na roddir yr un cyfleoedd i'r holl ranbarthau ffynnu a thyfu – mae hyn yn cynnwys y cyfle i fanteisio ar fargeinion twf lleol.

3.2 Yn ogystal, byddai'n amhosibl sicrhau cenedl gydlynus heb fuddsoddi yng nghanol y wlad sy'n cysylltu popeth – sef rhanbarth Canolbarth Cymru.  Yn hanesyddol, buddsoddwyd llai yn y rhanbarth hwn, a byddai diffyg buddsoddiad mewn bargen er mwyn sicrhau twf yn gwaethygu'r sefyllfa bresennol.

3.3 Bydd yn hanfodol bod y pedwar rhanbarth economaidd yng Nghymru yn cydweithio er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau ag y bo modd ar gyfer eu rhanbarthau unigol – mae rhanbarthau yn datblygu eu blaenoriaethau eu hunain ar sail y cyfleoedd sydd ar gael, a bydd rhannu gwybodaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau datblygiad economaidd cytbwys ar draws Cymru gyfan.

3.4 Ar hyn o bryd, mae TCC yn datblygu dull gweithredu wedi'i seilio ar raglen, sy'n ystyried y cyfleoedd arwyddocaol yn y rhanbarth sy'n seiliedig ar sectorau penodol – sef Amddiffyn a Diogelwch;  Iechyd Anifeiliaid a Gwyddor Milfeddygol;  a Biodechnoleg ac Agri-Tech – ond rydym yn llwyr ymwybodol hefyd o'r angen i ystyried materion anghydraddoldeb yn ein rhanbarth.  Yng Nghanolbarth Cymru, mae lefel y buddsoddiad mewn seilwaith, gan gynnwys seilwaith digidol, ar ei hôl hi o'i gymharu â'r hyn a welir mewn rhanbarthau economaidd eraill, gan waethygu materion sy'n bodoli eisoes o ran busnesau'n manteisio ar farchnadoedd a phreswylwyr yn manteisio ar wasanaethau.  Felly, mae buddsoddi mewn coridorau trafnidiaeth strategol yn hanfodol.  Ceir materion sy'n ymwneud â thegwch o ran y mynediad i gyfleoedd AB o ansawdd yn y sir hefyd, wrth i nifer o fyfyrwyr ôl-16 ddewis teithio dros y ffin i Loegr neu i ranbarthau eraill yng Nghymru.

4.   Cyd-fynd â Strategaeth Llywodraeth Cymru

4.1 Mae gan Tyfu Canolbarth Cymru berthynas waith sefydledig gyda Llywodraeth Cymru, ac mae'n ffodus bod LlC yn aelod o'i phartneriaeth gynhwysol, ac mae'n cael budd gan fewnbwn sylweddol gan Economi, Trafnidiaeth, Adfywio a Materion Gwledig LlC.  Mae TCC wedi gweithio'n agos gyda LlC, CLlLC a rhanbarthau economaidd eraill yng Nghymru er mwyn helpu i bennu rôl cynnar partneriaethau economaidd rhanbarthol mewn oes yn dilyn Brexit.  Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn dymuno parhau'r gwaith hwn, gan ddatblygu ein dealltwriaeth ymhellach o'r ffordd orau o sicrhau bod mentrau cenedlaethol LlC yn rhyngweithio gyda ac yn ymwneud â gweithgareddau rhanbarthol mewn partneriaeth â Bwrdd Alinio Rhanbarthol LlC a sefydlwyd yn ddiweddar.

4.2 Byddem yn amlygu'r ffaith ei bod yn anodd gwneud sylw am y graddau y mae bargeinion dinas a thwf yn cyd-fynd â strategaeth LlC ar hyn o bryd gan ein bod yn aros i'r bedair strategaeth genedlaethol trawsbynciol newydd gael eu cyhoeddi – Ffyniannus a Diogel, Iach ac Egnïol, Uchelgeisiol ac yn Dysgu ac Unedig a Chysylltiedig.  Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae TCC yn croesawu'r gydnabyddiaeth o'r angen i newid strwythurau datblygu economaidd LlC er mwyn gweithio mewn partneriaeth agosach gyda'r rhanbarthau, ac mae'n gobeithio y bydd meysydd polisi eraill LlC yn mabwysiadu golygwedd ranbarthol debyg yn eu gwaith.

4.3 Yn ogystal, mae Tyfu Canolbarth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio'n agos ag Adrannau Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod Cymru'n manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd gan fentrau cyllid allweddol eraill a arweinir gan Lywodraeth y DU yn ychwanegol i'r Gronfa Twf Lleol, megis y Strategaeth Ddiwydiannol a gynigiwyd yn ddiweddar.  Rydym yn cydnabod yr angen i LlC a Llywodraeth y DU gydweithio'n agosach er mwyn darparu trefniadau sy'n addas i'r diben o ran polisi a darpariaeth, a hefyd, i gydweithio â phartneriaethau economaidd rhanbarthol yng Nghymru er mwyn sicrhau parch cyfartal gyda Phartneriaethau Cyflogaeth Lleol.

 

Byddai Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn croesawu'r cyfle i drafod cynlluniau'r rhanbarth ac i ateb cwestiynau am y sefyllfa a'r cyfleoedd yng nghanolbarth Cymru.

Cefndir

Tyfu Canolbarth Cymru:

1.      Partneriaeth economaidd ranbarthol a threfniant ymgysylltu rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ar gyfer canolbarth Cymru, a sefydlwyd yn 2015.

2.      Un o bedwar rhanbarth economaidd cydnabyddedig ar draws Cymru gyfan.

3.      Mae'n cynrychioli buddiannau'r rhanbarth ac yn bwrw ymlaen â blaenoriaethau er mwyn gwneud gwelliannau i'n heconomi ranbarthol.

Nod cyffredinol y Bartneriaeth yw sefydlu'r rhanbarth fel pwerdy gwledig Cymru.